Chwilio am Gwrs
Sir Benfro yn Dysgu
Cyrsiau
5 cyrsiau a gafwyd
Ioga - Symudiadau sy’n rhyddhau’r cymalau
Gellir ei wneud yn eistedd mewn cadair, neu ar fat ioga. Symudwch trwy bob cymal o'r corff gyda'r anadl i greu ymdeimlad o dawelwch, datblygu ystod o symudiadau ym mhob cymal, a chreu mwy o ymdeimlad o hunanymwybyddiaeth. Mae'r sesiwn yn cynnwys ymlacio dan arweiniad.Sbaeneg - Blwyddyn 2
Nod y cwrs hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o’r iaith Sbaeneg a’u galluogi i ymdopi’n hyderus ag ystod o sefyllfaoedd ac i sgwrsio am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys y gorffennol a’r dyfodol. Dylai myfyrwyr fod wedi dilyn cwrs ar lefel rhagarweiniol neu fod â rhywfaint o brofiad o astudio/siarad yr iaithSgiliau Microsoft Office
Addas ar gyfer y rhai sydd â sgiliau cyfrifiadurol cyfyngedig neu sydd wedi cwblhau cwrs TG rhagarweiniol. Ar y cwrs hwn gallwch ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau, creu a defnyddio taenlenni, defnyddio cronfa ddata, creu sioe sleidiau neu greu posteri a thaflenni newyddion trwy Gyhoeddi Bwrdd Gwaith. Byddwch yn defnyddio rhaglenni Microsoft Office 2016 gan gynnwys Word, Excel, Access, PowerPoint a Publisher. Byddwch yn cael achrediad am y cwrs hwn ac mae’n addas iawn os ydych yn meddwl am gael swydd neu os ydych eisiau adfywio eich sgiliau TG cyn dychwelyd i weithio.SSIE - Saesneg ar gyfer Siaradwyr Iethoedd Eraill
Dosbarthiadau Saesneg. I ymuno â dosbarth mae angen i ni siarad â chi’n gyntaf. Ffoniwch RADFFÔN 0808 100 3302.TGAU Iaith Saesneg - CBAC
Beth am loywi eich iaith a gwybodaeth ramadegol o’r Saesneg ac ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i sefyll eich arholiad TGAU Saesneg Iaith yn y dosbarth hwn sy’n eich paratoi ar gyfer yr arholiad mewn cwrs 30 wythnos. Mae'r cwrs hwn yn gofyn am ymrwymiad a chymhelliant i lwyddo. Bydd pob dysgwr yn cael prawf sgiliau byr cyn cofrestru.instructional text |
Cliciwch ar deitl y cwrs i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael' |
ID: 1424, revised 22/09/2022