Canolfannau Gwasanaethau i Gwsmeriaid

Gwasanaethau i Gwsmeriaid Hwlffordd

Adain y Gogledd, Neuadd y Sir
Neuadd y Sir,
Hwlffordd.
SA61 1TP
Ffôn: 01437 764551

 

Bydd y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn gweithredu rhwng 9am a 12pm ac 1pm i 4pm.

Os yw'ch ymholiad yn gymhleth neu angen gwybodaeth bellach, neu os oes gennych ofynion cyfathrebu penodol, efallai y bydd yn rhaid i ni ofyn i chi wneud apwyntiad i ddod yn ôl ar amser gwahanol, er mwyn sicrhau bod eich anghenion yn cael eu bodloni'n llawn.

 


Mae Canolfan Wasanaethau i Gwsmeriaid (Adain y Gogledd, Neuadd y Sir) wedi’i lleoli i’r dde o Neuadd y Sir (os ydych chi’n wynebu tu blaen yr adeilad).  Mae’r fynedfa yn wynebu’r afon ac mae hi ar bwys y bont ffordd.  Bydd defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gallu mynd i mewn trwy ddrysau awtomatig ac mae desg isel ynghyd â dolen glywed ar gael i ddefnyddwyr.

 

 

ID: 583, adolygwyd 22/04/2025