Cymorth Prynu Sir Benfro

Beth yw Cymorth Prynu Sir Benfro?

Cynnyrch tai fforddiadwy a ddarperir gan Gyngor Sir Penfro sy’n helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eiddo yn Sir Benfro yw cynllun Cymorth Prynu Sir Benfro.

 

Sut mae’n gweithio?

Gall Cymorth Prynu Sir Benfro roi benthyg hyd at 40% o werth eiddo ar y farchnad agored. Ni fyddwch yn talu llog na phridiannau yn erbyn y benthyciad, ond fe’i telir yn ôl pan fyddwch yn gwerthu’r eiddo, neu drwy wneud ad-daliad cynharach.

Mae gwerth y benthyciad yn gysylltiedig â gwerth marchnadol cyfredol yr eiddo.

Os bydd gwerth yr eiddo yn cynyddu pan fyddwch yn berchen arno, bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y swm sy’n ddyledus gennych ar eich benthyciad. 

 

A ydyw’n addas i chi?

Mae Cymorth Prynu Sir Benfro wedi’i greu i helpu’r rhai a hoffai brynu eu cartref eu hunain, sydd â mynediad at forgais ac sydd wedi cynilo ar gyfer blaendal, ond sy’n dal i ganfod eu bod yn cael trafferth fforddio cartref addas.

Ei nod yw rhoi cyfle i bobl sydd â chysylltiad lleol â Sir Benfro gael mynediad i’r farchnad dai, a lle bo’n bosibl prynu eiddo yn eu hardal ddewisol o’r sir.

Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r ddau fater allweddol hyn ar gyfer prynwyr tro cyntaf yn y sir. 

 

Pwy sy’n cael ei gynnwys fel prynwr tro cyntaf?

Mae prynwr tro cyntaf yn cynnwys rhywun sydd:

  • erioed wedi bod yn berchen ar gartref na thir, neu
  • wedi bod yn berchen ar eiddo o’r blaen, ond wedi’i werthu oherwydd tor-perthynas, priodas neu bartneriaeth sifil.

wedi dioddef anhawster ariannol sydd wedi arwain at werthu ei gartref.

 

Pwy sy’n gymwys?

I fod yn gymwys ar gyfer y benthyciad hwn, mae rhai meini prawf y bydd yn rhaid i chi eu bodloni.

  • Rhaid i chi allu dangos na allwch fforddio prynu eiddo addas heb gymorth cynllun Cymorth Prynu Sir Benfro.
  • Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn.
  • Ni ddylech fod yn berchen ar eiddo neu dir yn rhywle arall.
  • Dylech fod yn gallu profi bod gennych gysylltiad lleol â Sir Benfro.
  • Mae angen bod gennych flaendal rhwng 5% a 15%.
  • Rydych wedi sicrhau morgais a fydd yn talu am brynu’r eiddo, llai eich blaendal a benthyciad Cymorth Prynu Sir Benfro.

Rhaid bod eich incwm cartref blynyddol gros ar y cyd yn £65,000 neu lai.

 

Pa eiddo fydd yn cael eu hystyried?

  • Eiddo â gwerth marchnadol o £275,000 neu lai.
  • Eiddo sydd ar werth ar y farchnad agored.
  • Rhaid i’r eiddo fod yn Sir Benfro.
  • Ni ddylai fod yn eiddo i ffrind neu aelod o’r teulu ar hyn o bryd.
  • Ni ddylai fod yn eiddo sy’n cael ei adeiladu o’r newydd, sy’n cael ei werthu gan ddatblygwr neu ar ei ran.

Gall eiddo gwag cofrestredig dewisol hefyd fod yn gymwys am fenthyciad ychwanegol.

 

Cysylltiad lleol

Rhan bwysig o gynllun Cymorth Prynu Sir Benfro yw rhoi cyfle i bobl sydd â chysylltiad lleol â’r ardal brynu cartref. Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth eu bod yn bodloni un o’r meini prawf canlynol:

  • Eu bod wedi byw yn yr ardal fel eu hunig neu brif gartref am y tair blynedd diwethaf.
  • Eu bod wedi byw yn yr ardal o’r blaen am o leiaf bump o’r ddeng mlynedd flaenorol.
  • Mae ganddynt aelod agos o’r teulu (teidiau a neiniau, rhieni, brodyr a chwiorydd, plant sy’n oedolion, modrybedd, ewythrod, nithoedd, neiaint) sy’n byw yn yr ardal ar hyn o bryd ac sydd wedi byw yn yr ardal am y tair blynedd diwethaf fel eu hunig gartref neu brif gartref; ac maen nhw’n darparu cymorth i aelod o gartref yr ymgeiswyr neu’n cael cymorth gan yr aelod agos hwnnw o’r teulu.
  • Mae ganddynt blentyn sydd wedi bod yn yr ysgol am y 12 mis diwethaf.

Maent wedi bod mewn cyflogaeth barhaol (o leiaf 16 awr yr wythnos pro rata) yn yr ardal am y 12 mis diwethaf, ac mae hyn yn cynnwys gwaith tymhorol. Ystyrir hefyd aelodau’r RNLI, y gwasanaeth tân, neu wylwyr y glannau, sydd angen byw yn agos i’w gwaith.

 

Pa fenthyciad a fydd ar gael?

Bydd y benthyciad sydd ar gael naill ai yn 20% neu 30% o werth marchnadol presennol yr eiddo yr hoffech ei brynu, gyda chyfradd y benthyciad yn cael ei benderfynu yn ôl lleoliad yr eiddo yn y sir.

Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i brynwyr brynu eiddo mewn ardal yr hoffent fyw ynddi, neu fod â chysylltiad â hi, gan ddeall y gall rhai ardaloedd yn Sir Benfro fod yn ddrutach ac yn llai fforddiadwy nag eraill ar gyfer eiddo tebyg.

Mae Cymorth Prynu Sir Benfro felly yn cynnig cyfradd benthyca uwch mewn ardaloedd sydd â phris tŷ uwch. Rhaid i’r eiddo fod yn fforddiadwy i chi o hyd a bodloni meini prawf Cymorth Prynu Sir Benfro i fod yn gymwys.

 

Tai gwag

Mae’n bosibl y bydd benthyciad ychwanegol o 10% ar gael os byddwch yn dewis prynu eiddo gwag sydd wedi’i gofrestru’n wag gyda Chofrestrfa Tir EF am o leiaf chwe mis, ac mae’n amod eich bod yn gallu sicrhau morgais i ariannu gweddill y pryniant.

 

Faint y byddaf yn ei ad-dalu?

Ni fydd gennych unrhyw log i’w dalu yn erbyn benthyciad Cymorth Prynu Sir Benfro. Yn lle hynny, mae’r benthyciad wedi’i warantu yn erbyn yr eiddo rydych chi’n ei brynu fel pridiant cyfreithiol. Mae hyn yn golygu y bydd yn cael ei gofnodi gyda Chofrestrfa Tir EF bod gan Gyngor Sir Penfro fuddiant ariannol yn yr eiddo, ac os caiff ei werthu neu os bydd y berchnogaeth yn cael ei throsglwyddo, byddai angen ei ad-dalu’n llawn cyn trosglwyddo perchnogaeth.

Mae’r benthyciad yn ganran o werth yr eiddo ac yn gysylltiedig â’r farchnad dai gyfredol. Os bydd gwerth yr eiddo yn codi oherwydd gwell marchnad dai neu wrth i chi wneud gwelliannau i’r cartref, bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yng ngwerth y benthyciad.

Er enghraifft: Pe bai’r tŷ yn cael ei brynu am £150,000 gan ddefnyddio benthyciad o 30% (£45,000) gan Cymorth Prynu Sir Benfro a’r gwerth yn cynyddu 10% i £165,000, byddai gwerth y benthyciad yn cynyddu 10% i £49,500.

Os byddwch yn gwneud gwaith sylweddol i’r cartref, er enghraifft ychwanegu heulfan neu estyniad, sy’n achosi cynnydd yng ngwerth eiddo, bydd hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yng ngwerth y benthyciad sy’n ddyledus i Gyngor Sir Penfro. Byddai angen i chi gael caniatâd Cyngor Sir Penfro cyn gwneud newidiadau strwythurol i’r eiddo.

Os bydd gwerth yr eiddo yn disgyn yn is na’r pris prynu gwreiddiol, bydd gofyn i chi ad-dalu gwerth y benthyciad gwreiddiol.

 

Ad-dalu’r benthyciad

Uchafswm tymor y benthyciad yw 25 mlynedd, gyda’r Tîm Tai Fforddiadwy yn gweithio gyda chi i dalu’n gynt. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch wneud taliad yn erbyn y benthyciad. Mae hyn yn cynnwys: Taliad llawn neu rannol ac ailwerthu.

  • Taliad llawn – taliad unigol sy’n ad-dalu’r benthyciad cyfan.
  • Taliad rhannol – taliad y cytunwyd arno o 5% o leiaf o werth yr eiddo, y gellir ei gynyddu mewn cynyddrannau o 5%.
  • Ailwerthu / trosglwyddo – ad-dalu unrhyw fenthyciad sy’n weddill wrth ailwerthu neu drosglwyddo’r eiddo.
  • Ni ellir gwneud ad-daliad yn ystod 12 mis cyntaf perchnogaeth
  • Cyn i unrhyw ad-daliad gael ei wneud, bydd angen i chi drefnu prisiad o’r eiddo.Rhaid anfon hwn at y Tîm Tai Fforddiadwy a fydd yn asesu’r adroddiad ac yn darparu swm ad-dalu.

Ni allwch sefydlu cynllun talu misol ar gyfer y cynnyrch hwn.

 

Sut i gyflwyno cais

Cam 1 – Mynegi diddordeb

Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Tîm Tai Fforddiadwy i fynegi eich diddordeb yng nghynllun Cymorth Prynu Sir Benfro. Byddwn yn cynnal asesiad sylfaenol i ddeall a ydyw’r benthyciad yn iawn i chi. 

Cam 2 – Cofrestru ac asesu

Byddwn yn anfon pecyn cofrestru atoch y bydd angen i chi ei lenwi a’i ddychwelyd. Bydd angen i chi hefyd anfon tystiolaeth i ddangos eich bod yn bodloni meini prawf penodol i gael mynediad at y benthyciad.

Unwaith y byddwn wedi cael yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnom, byddwn yn asesu eich cais.

Byddwn hefyd yn cynnal ein prisiad ein hunain o’r eiddo.

Cam 3 – Penderfyniad ar fenthyciad

Pan fyddwn yn fodlon bod y cais yn bodloni meini prawf y benthyciad, bydd penderfyniad yn cael ei wneud o ran caniatáu’r benthyciad.

Os caniateir y benthyciad, byddwch yn cael eich hysbysu trwy lythyr ac yn cael tystysgrif benthyciad.

Ar y cam hwn bydd angen i chi roi manylion eich cyfreithwyr i ni. 

Cam 4 – Trawsgludo

Bydd eich cais yn cael ei gyfeirio at ein cyfreithwyr ni, a fydd yn prosesu’r benthyciad ac yn cydgysylltu â’ch cyfreithiwr chi.

Cyn i chi gyfnewid, bydd angen i chi fod wedi trefnu yswiriant adeiladau ar gyfer yr eiddo o’r dyddiad cyfnewid. Bydd angen i chi hefyd roi copi o hwn i ni. 

Cam 5 – Cwblhau

Unwaith y bydd yr holl wiriadau wedi’u cwblhau, bydd dyddiadau cyfnewid a chwblhau yn cael eu cadarnhau.

Cytunir ar gyfnewid arian ac ar ôl cwblhau’r pryniant, bydd yr allweddi ar gael 

Cam 6 – Ar ôl cwblhau’r pryniant

Byddwch yn cael datganiad blynyddol o’r cyfrif benthyciad. Bydd hyn yn dangos i chi pa ecwiti rydych wedi’i ad-dalu o fewn yr eiddo.

Bob blwyddyn, bydd angen i chi hefyd anfon prawf eich bod yn byw yn yr eiddo a chopi o’ch tystysgrif yswiriant adeiladau.

 

A oes cost i gael mynediad at y cynllun?

Oes, mae ffi cynnyrch o £500 yn daladwy i gael mynediad at fenthyciad Cymorth Prynu Sir Benfro.

Telir hwn ar drydydd cam y broses, unwaith y byddwn wedi cwblhau ein holl wiriadau a’n bod yn barod i gymeradwyo’r cais am fenthyciad.

Ni ellir ad-dalu’r ffi cynnyrch hwn, ond os bydd pryniant eiddo’n methu, efallai na fydd angen i chi dalu’r ffi hon eto os byddwch yn cyflwyno eiddo newydd o fewn amserlen y cytunwyd arni.

Byddwch hefyd yn gyfrifol am unrhyw gostau sy’n ymwneud â phrynu’r eiddo ac unrhyw gostau parhaus ar gyfer yr eiddo. 

 

Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw

Chi fydd yn gyfrifol am yr holl waith atgyweirio a chynnal a chadw i’r eiddo, gan gynnwys unrhyw gostau yr eir iddynt.

Os ydych yn bwriadu gwneud addasiadau sylweddol i’r eiddo (e.e. adeiladu estyniad), bydd angen i chi geisio caniatâd Cyngor Sir Penfro, gan y bydd hyn yn cael effaith ar werth yr eiddo. 

 

Cyngor ariannol

Ni allwn gynnig unrhyw gyngor ariannol na chyngor arall yn ymwneud â thrawsgludo eiddo. Argymhellir eich bod yn siarad â chynghorydd ariannol neu gynghorydd morgeisi annibynnol i ddeall yr opsiynau sydd ar gael i chi.

 

Cysylltwch â ni

I wneud cais am gynllun Cymorth Prynu Sir Benfro, neu i weld a ydych yn gymwys ar gyfer y benthyciad hwn, cysylltwch â’n Tîm Tai Fforddiadwy.

E-bostiwch - affordablehousing@pembrokeshire.gov.uk

Ffoniwch - 01437 764551

Postiwch - Y Tîm Tai Fforddiadwy, 2B, Neuadd y Sir, Freemens Way, Hwlffordd SA61 1TP

 

Gwybodaeth ychwanegol a dadlwythiadau

Hysbysiad Preifatrwydd - Cymorth Prynu Sir Benfro 

ID: 13326, revised 19/05/2025